MAE Lisa Gwilym, y ferch o Henllan ger Dinbych, yn ei hôl ar ein sgriniau teledu, wrth iddi arwain, annog a chefnogi pum unigolyn i wella eu ffitrwydd yn y gyfres deledu newydd FFIT Cymru (Cwmni Da).
Dros gyfnod o ddau fis, bydd pum arweinydd o bob cwr o Gymru yn ceisio trawsnewid eu hiechyd drwy ddilyn cynlluniau arbennig gan y tri arbenigwr, yr hyfforddwraig bersonol Rae Carpenter, y seicolegydd Dr Ioan Rees ac yn newydd eleni yr arbenigwr bwyd Beca Lyne-Pirkis.
Gan gychwyn nos Fawrth, Ebrill 5 ar S4C bydd Lisa Gwilym wrth y llyw, wrth i’r arbenigwyr rannu cyngor a gweithio’n agos gyda’r arweinwyr ar sut i gadw'n ffit, sut i ofalu am les ac iechyd meddwl a chynnig cyngor ar sut i fabwysiadu arferion bwyta da.
Bydd FFIT Cymru yma i gynnig cysur i bawb a bydd hi’n bosib i chi gymryd rhan adref hefyd trwy ddilyn y cynlluniau bwyd a ffitrwydd arbennig ar-lein ar wefan FFIT Cymru, www.s4c.cymru/ffitcymru ac ar gyfryngau cymdeithasol @ffitcymru.
Meddai Siwan Haf, cynhyrchydd y gyfres: "Mae FFIT Cymru yn gyfres all helpu pobl i gadw'n iach - yn gorfforol a meddyliol a hynny wedi i ni gyd fyw trwy gyfnod digon anodd.
"Dyma blatfform aml-gyfrwng all gynnig arweiniad a help llaw ymarferol.
"Rydan ni eisoes wedi gweld yr effaith a’r trawsnewid anhygoel mae FFIT Cymru wedi ei gael ar fywydau arweinwyr ein cyfresi blaenorol, ac rydan ni’n edrych mlaen at ddod i nabod a dilyn taith ein pum arweinydd a fydd yn derbyn cyngor bob cam o'r daith unigryw hon gan ein tri arbenigwr - ac a fydd yn siwr o ysbrydoli’r gwylwyr adref hefyd."
Bydd Beca Lyne-Pirkis yn creu ambell rysáit newydd i'r arweinwyr eleni ac mi fydd modd eu gweld a'u dilyn ar wefan FFIT Cymru, s4c.cymru/ffitcymru, yn ogystal â gwefan ac ap newydd, Cegin S4C.
Meddai Beca: "Fel rhywun sy'n astudio i fod yn ddietegydd ac sydd hefo diddordeb mawr mewn maetheg a choginio, mae'r cyfle i fod yn rhan o'r tîm, creu ryseitiau a cheisio ysbrydoli'r arweinwyr gyda bwyd, yn un ffantastig.
"Ein swydd ni yn bennaf yw i geisio dod a'r cydbwysedd nôl ym mywydau'r arweinwyr.
"Fi jyst eisiau cael yr arweinwyr i ddeall bwyd ychydig yn well, a gweld sut mae rhoi gymaint o bethau da yn eich corff yn gallu helpu eich iechyd. Dwi hefyd eisiau ysbrydoli hefo ryseitiau a syniadau gwahanol, i ddod a'r excitement yna nôl fewn i goginio a bwyta."
Y pump arweinydd ar gyfer y gyfres eleni yw: Bethan Davies, 39, o Ferthyr Tudful; Gafyn Owen, 48, o Tŷ Croes, Sir Fôn; Ruth Roberts, 40, o Abercynon; Twm Jones, 59, o Lanerchymedd a Wendy Thomas, 58, o Aberystwyth.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here