DROS y misoedd nesaf, bydd y Mentrau Iaith ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal dwy gyfres newydd o deithiau tywys ‘Ar Droed’ mewn lleoedd arbennig yng Nghymru ar gyfer siaradwyr Cymraeg– hen a newydd.
Yn dilyn llwyddiant teithiau natur ‘Ar Droed’ yn 2022, bydd un gyfres o deithiau tywys yn cael ei chynnal mewn pedwar adeilad arwyddocaol, ac un gyfres mewn pedair gardd arbennig yng Nghymru.
Tywyswyr lleol fydd yn arwain y teithiau eleni, sy’n cael eu cynnal rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf, ac mae ambell i enw adnabyddus yn ymuno i gefnogi hefyd.
Ymweliad â Senedd Cymru ar Chwefror 8 oedd yn dechrau’r gyfres o deithiau mewn adeiladau arwyddocaol.
Ymunodd y llywydd, Elin Jones, â’r grŵp i gael sgwrs am yr adeilad, gwaith y Senedd a gwaith y llywydd.
Ar y daith nesaf bydd cyfle i ymweld â Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth ar Chwefror 22 ac mae rhai llefydd dal ar gael.
Bydd teithiau’r adeiladau eraill yn ymweld â bryngaer Castell Henllys yn Sir Benfro a’r Llyfrgell Genedlaethol y Aberystwyth ddiwedd mis Mawrth.
Yn y gwanwyn a’r haf bydd y gyfres o deithiau gerddi yn ymweld â Portmeirion (Ebrill 29), yr Ardd Fotaneg Genedlaethol (Mai 13), Gardd Berlysiau’r Bont-faen (Mehefin 8) a Phont y Tŵr – gardd Sioned ac Iwan Edwards sy’n wynebau adnabyddus rhaglen “Garddio a Mwy” S4C ar Mehefin 28.
Meddai Helen Prosser, cyfarwyddwr dysgu ac addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan Genedlaethol a ’dyn ni’n falch dros ben bod teithiau tywys ‘Ar Droed’ yn cael eu cynnal eto eleni.
"Bydd y teithiau yn gyfle i ddysgwyr ddod i wybod mwy am y cyfoeth o eiriau Cymraeg, yn ogystal â chyfarfod a sgwrsio gyda dysgwyr eraill yn eu hardal.”
Mae croeso arbennig i’r rhai sy’n aelodau o’r cynllun Siarad, cynllun sy’n rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr ddod at ei gilydd i gymdeithasu.
Bydd paned a mwy o gyfle i sgwrsio ar gael ar bob un o’r teithiau.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y teithiau rhad ac am ddim hyn, e-bostiwch ardroed@mentrauiaith.cymru
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here